Gyda chefnogaeth PAVS, PLANED, Catalyddion Cymunedol a Chyngor Sir Benfro, mae’r prosiect Catalyddion ar gyfer Gofal yn cefnogi pobl â natur ofalgar a syniad da i sefydlu eu menter gofal neu gymorth eu hunain. Ein nod yw ehangu’r dewis o fentrau gofal a chymorth bach, lleol yn Sir Benfro fel y gall pobl ddewis o ystod o wasanaethau personol, hyblyg sy’n gweithio iddyn nhw.
Rydym yn cynnig dwy raglen am ddim i sefydlu menter gofal neu gymorth:
Rhaglen Micro-Fenter Cymunedol
Beth yw micro-fenter gymunedol?
Busnes gofal neu gymorth bach sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol ac yn iach. Yn aml, unig fasnachwyr ydyn nhw ond gallen nhw fod yn Gwmni Cyfyngedig bach sy’n cyflogi hyd at wyth o bobl.
Gallant ddarparu ystod o wasanaethau gan gynnwys:
Cefnogaeth i aros yn annibynnol gartref – glanhau, paratoi prydau bwyd, garddio ac ati.
Cwmnïaeth a chefnogaeth i gael mynediad at grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol
Mae Menter Gymdeithasol yn fusnes sy’n masnachu i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, yn gwella cymunedau, cyfleoedd bywyd pobl neu’r amgylchedd. Mae’n masnachu trwy werthu nwyddau neu wasanaethau yn union fel unrhyw fusnes arall. Yr hyn sy’n wahanol yw sut maen nhw’n gweithio a beth maen nhw’n ei wneud â’u helw; maen nhw’n gweithio i wneud gwahaniaeth mwy ac ail-fuddsoddi unrhyw elw, ar ôl y costau, i gyflawni eu nodau cymdeithasol.