Ymunodd Swyddogion Prosiect BRICs â Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro a gwirfoddolwyr prosiect SWEPT i fwynhau taith canŵ lawr y Cleddau ar ddiwrnod hynod braf ym mis Ionawr!
Mae prosiect gwirfoddol SWEPT wedi recriwtio gwirfoddolwyr i gasglu a phrofi samplau dŵr ffres am nitradau a ffosffadau o fewn Dyfrffordd Aberdaugleddau.
Roedd hi’n ddiddorol, difyr a defnyddiol gweld sut mae prosiect SWEPT yn defnyddio canŵau i gyrraedd a samplu mewnbynnau dŵr ffres llai hygyrch sy’n rhedeg i mewn i aber yr afon. Bydd dadansoddiad o’r data a gasglwyd o ddiddordeb i brosiect BRICs.
Mae BRICs yn brosiect ymchwil sy’n gweithredu mewn modd arloesol i reoli adnoddau naturiol yn yr ardal, gan fod o fudd i’r cymunedau a’r busnesau o fewn y gymdogaeth.
Rydym yn canolbwyntio ar dair ardal yn Sir Benfro:
- Pelcomb Brook
- Winterton Marsh, a
- Llys y Fran
Gan weithio yn y 3 is-dalgylch afon amrywiol hyn, bydd y prosiect yn profi dull gwirfoddol o gyflwyno Cynlluniau Gwytnwch Ffermydd, gan bwysleisio cyfleoedd ac awgrymu gweithredoedd i wella rheolaeth dŵr a phridd, cynefinoedd a bywyd gwyllt ar ffermydd.
Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys y gadwyn gyflenwi, rheolwyr tir, diwydiant, mudiadau cadwraeth, undebau ffermio, Dŵr Cymru, ffermydd cydweithredol, awdurdodau, Cyfoeth Naturiol Cymru a chymunedau’n cydweithio i ddatblygu gwytnwch ym musnes ffermydd. Ar yr un pryd, bydd y prosiect yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd cynaliadwy.
Datblygwyd ac ariennir BRICS drwy’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Os ydych yn ffermwr neu’n berchen ar dir yn un o’r is-dalgychoedd a restrir uchod a’ch bod yn awyddus i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Taylor, Swyddog Prosiect BRICs ar 01834 860965 neu emmat@planed.org.uk.
Os oes gennych ddiddordeb neu’n credu yr hoffech gymryd rhan mewn cynllun masnachu maetholion, cysylltwch â Paul Renfro, Swyddog Prosiect BRICs ar 01646 405693 neu paul.renfro@pembrokeshirecoastalforum.org.uk
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
