Mae Arwain Sir Benfro, y Grŵp Gweithredu Lleol ar gyfer Sir Benfro wedi sicrhau dros £3,300,000 o gyllid LEADER i gefnogi prosiectau sy’n profi syniadau newydd sydd o fudd i Sir Benfro ac yn cyfrannu at economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy yn Sir Benfro.
Mae Arwain Sir Benfro yn cefnogi dros 65 o brosiectau ledled Sir Benfro, gyda dros £ 2m o gyllid LEADER wedi’i ddyrannu hyd yma.
Mae Arwain Sir Benfro, y Grŵp Gweithredu Lleol ar gyfer Sir Benfro, yn chwilio am syniadau a fydd yn rhoi hwb i ddatblygiad masnachol, yn creu partneriaethau busnes ac yn helpu i gwtogi cadwyni cyflenwi.
PLANED yw’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y rhaglen, gan helpu Arwain Sir Benfro i ddarparu’r cyllid yn y sir.

Mae’r mwyafrif o’n Cyllideb Weithredu bellach wedi’i ddyrannu.
Dilynwch Arwain Sir Benfro ar Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf.
I gael y manylion llawn, ewch i wefan Arwain Sir Benfro.
Mae’r rhaglen LEADER yn rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) 2014 – 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).