Data newydd ar gyfer gwefan Deall Lleoedd Cymru

Data newydd ar gyfer gwefan Deall Lleoedd Cymru

Heddiw, mae Sefydliad Materion Cymreig yn falch o lansio diweddariad i Deall Lleoedd Cymru.

Mae Deall Lleoedd Cymru yn wefan ddwyieithog sy’n cyflwyno gwybodaeth am yr economi, cyfansoddiad demograffig a gwasanaethau lleol o fwy na 300 o leoedd yng Nghymru mewn fformat cyflym a hawdd.

Mae Covid-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ble rydym yn byw, pwy sy’n byw yn ein cymunedau, ble rydym yn cael ein bwyd, a ble rydym yn defnyddio ein gwasanaethau lleol.

Er gwell neu waeth, mae’r pandemig wedi golygu bod y rhan fwyaf ohonom yn dod i adnabod ein hamgylchoedd uniongyrchol yn well nag o’r blaen. Efallai ein bod yn sylwi am y tro cyntaf cymaint sydd gennym ar garreg ein drws, neu’n sylwi ar yr hyn sydd ar goll yn ein lleoedd.

Credwn mewn grymuso cymunedau drwy roi’r arfau sydd eu hangen arnynt i wneud newid, ac rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae cymunedau wedi’i ddweud wrthym yr oeddent eisiau ei weld yn y don nesaf yma o ddata newydd.  Credwn y dylai fod yn norm i bobl gael mwy o lais yn y ffordd y maent yn llunio eu cymunedau.

Goleuni drwy Ystadegau

Ar hyn o bryd, dim ond ar lefel awdurdod lleol y mae llawer o ystadegau a gesglir am Gymru ar gael ac, yn rhy aml, mae cymunedau trefol yn cael eu hanwybyddu gan bolisi cyhoeddus, oherwydd yr anhawster i gael gafael ar ddata ar y lefel honno.

Mae’r diweddariad hwn ym mis Rhagfyr 2020 yn cynnwys:

  • Cyflwyno dros 70 o ddisgrifiadau lle newydd fel bod stori pob lle yn cael ei chrynhoi gymaint â phosibl gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yno
  • Newidynnau newydd ar gyfer pob lle gan gynnwys data ar fynediad at wasanaethau, mynediad i fannau gwyrdd, argaeledd band eang, nifer y toiledau cyhoeddus, nifer y busnesau cynhyrchu ac ystadegau iechyd meddwl, a bydd pob un ohonynt yn hanfodol i’r ffordd y bydd Cymru’n adeiladu ei dyfodol ar ôl Covid
  • Ychwanegu mapiau Llif Poblogaeth newydd sy’n dangos mudo a theithiau dyddiol yng Nghymru a dros y ffin i Loegr

 

Mae Deall Lleoedd Cymru eisoes yn caniatáu i bobl archwilio a chymharu ystadegau ar wahanol drefi, gan gynnwys gwybodaeth am:

  • Boblogaeth, dosbarthiad oedran, ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol
  • Nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd fesul pen
  • Y diwydiant cyflogaeth, pellteroedd cymudo a chymwysterau
  • Nifer yr ysbytai, meddygon teulu a deintyddion fesul pen

Dywedodd Hannah Blythyn AS, Dirprwy Weinidog Dros Dai a Llywodraeth Leol:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rymuso canol trefi a chymunedau. Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle i bobl ddod i adnabod eu cymuned ac archwilio ble maen nhw’n byw mewn ffordd na fydden nhw wedi’i wneud o’r blaen.

“Mae ein hagenda Trawsnewid Trefi yn rhoi trefi Cymru wrth wraidd popeth a wnawn, yn creu cyfleoedd ac yn cynnig ymdeimlad o le. Bydd hyn nid yn unig yn sicrhau bod ein trefi’n goroesi ond yn ffynnu drwy well dealltwriaeth o bwy sy’n ffurfio eu cymunedau a pha wasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Yfory [10 Rhagfyr] byddwn yn dechrau ein cyfres o ddosbarthiadau meistr Trefi SMART i edrych ar sut y gall canol trefi ddefnyddio data i’w helpu i addasu. Mae gwefan UWP yn fan cychwyn berffaith i bobl gael gafael ar ddata a dechrau deall eu trefi’n fanylach ac rwy’n annog pawb i ymweld â’r wefan.”

Wedi’i hariannu gan Carnegie UK Trust a Llywodraeth Cymru, mae’r wefan wedi’i chreu gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) a chonsortiwm o bartneriaid.  Fe’i hadeiladwyd ochr yn ochr â hyrwyddwyr cymunedol ledled Cymru sy’n credu y dylai pobl gael mwy o lais yn y ffordd y maent yn llunio’r mannau lle maent yn byw ac yn gweithio.

Mae’r wefan yn cyflwyno gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â dros 1,000 o drigolion a dadansoddiad cymharol o bob lle sydd â dros 2,000 o drigolion.

Nod Deall Lleoedd Cymru yw pontio’r ‘bwlch data’ o amgylch trefi a bydd hyn, yn ei dro, yn llywio ac yn dylanwadu ar ddatblygiad polisïau a fydd yn helpu’r ardaloedd lle mae cynifer ohonom yn byw.

Comisiynwyd Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd i gwblhau’r gwaith o greu’r wefan. Darparwyd gwaith prosesu a dadansoddi data ychwanegol gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol ym Manceinion.

Dywedodd Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, ‘Mae stori lle, ei orffennol a’i ddyfodol, yn ymwneud â chymaint mwy na’r data, ond mae deall y data yn lle da inni gyd ddechrau.  Mae Deall Lleoedd Cymru yn arf gwych i ddemocrateiddio’r data sydd eisoes wedi’i gadw ar drefi ledled Cymru.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda phobl mewn cymunedau ledled Cymru i ddiweddaru’r wefan gyda data newydd sy’n tynnu sylw at asedau pob lle, fel y gellir cefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol lle maent yn byw ac yn gweithio, ar sail y dystiolaeth o’u cwmpas.  Mae hyn yn hanfodol gan fod effaith Covid-19 mor wahanol ym mhob un o’n cymunedau.’