Mae ein prosiect, sy’n ymestyn drwy Sir Benfro, Together for Change, bellach yn recriwtio ar gyfer dwy swydd newydd. Wedi’i ariannu gan Gronfa Ymateb COVID-19 Loteri Genedlaethol Cymru, sefydlwyd y prosiect gan Solva Care gyda’n sefydliadau partner Pavs Pembs ac maent yn chwilio am Gydlynydd Prosiect llawn amser a Swyddog Prosiect i fynd â’r prosiect yn ei blaen.
Mae’r pandemig COVID-19 a’i oblygiadau i’r gymdeithas wedi amlygu pwysigrwydddigwyddiadau ar lefel gymunedol yn ystod cyfnod o argyfwng, gyda chymunedau’n ymateb yn ddeinamig a thosturiol i’r heriau oedd yn eu hwynebu.
Bydd Together for Change yn dwyn ynghyd sefydliadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus er mwyn sefydlu etifeddiaeth gadarnhaol o brofiadau COVID-19 ac adeiladu ar gyfraniad pwysig gweithrediad a arweinir gan y gymuned at iechyd a lles pobl yn Sir Benfro.
Am ragor o wybodaeth am y cyfleoedd swyddi cyffrous hyn, ewch i https://tfw.wales/cy/metroyndechrau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Mawrth 15 Medi.
Bydd ymrwymiad i weithio ar draws sectorau yn anelu at ddod â chonsensws ynghylch dulliau o ddarparu cymorth i gymunedau yn y dyfodol. Bydd Together for Change yn gweithredu ar lefel strategol, gan ddatblygu strategaeth a chynllun a fydd yn llywio cytundeb a gweledigaeth dorfol ynghylch iechyd a lles cymunedol o fewn y sir ac ar lefel ymarferol, gyda chymunedau, gan gasglu gwybodaeth, sefydlu dealltwriaethau cadarn o strategaethau presennol a ffurfio cysylltiadau.
Ers ei gychwyn, mae’r prosiect wedi cynnal dau gyfarfod, a gynhaliwyd ar-lein ym mis Mehefin 2020 ar Ddyfodol Cymorth Gweithrediad dan Arweiniad Cymunedol yn Sir Benfro. Daeth y cyfarfod cyntaf â rheolwyr y trydydd sector a’r sector cyhoeddus at ei gilydd a chafodd yr ail ei fynychu a’i lywio gan gynrychiolwyr cymunedol.
Trafododd Prif Weithredwr PLANED, Iwan Thomas, a gadeiriodd y cyntaf o’r ddau gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mehefin, sut y gall partneriaid strategol a chymunedau gydweithio. Law yn llaw ag Iwan, mynychodd Cris Tomos ac Abi Marriott o PLANED hefyd, gan adrodd ar y cynnydd ystyrlon wrth gefnogi’r prosiect Together For Change.
Dywedodd Iwan, “Ni ellir profi cryfder cymuned drwy drosglwyddo pŵer yn gyfan gwbl, ond drwy ei rannu, ac mae’r adborth a chyfraniadau a welwyd yn y digwyddiad hwn yn profi’r parodrwydd i weithio’n well fel tîm gyda’n cymunedau.”
Canolbwyntiodd y cyfarfodydd ar ddatblygu dealltwriaeth o effaith COVID-19 ar gymunedau ac opsiynau cynnal camau gweithredu o dan arweiniad y gymuned yn y dyfodol. Nododd adroddiadau’r cyfarfodydd yn glir dri maes y gellid eu diffinio ar gyfer gwaith pellach: gwybodaeth i lywio’r ffordd ymlaen; datblygu gweledigaeth a strategaeth ar y cyd; a chymorth ymarferol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol er mwyn meithrin nerth a gwydnwch cymunedol.
Mae’r adroddiadau o’r ddau gyfarfod ar gael i’w gweld neu eu lawr-lwytho isod: