Ydych chi’n caru Sir Benfro?
Oes gennych chi frwdfrydedd amlwg tuag at gymunedau?
Oes gennych chi brofiad o reoli prosiectau uwch dilys?
Hoffech chi ymuno â sefydliad blaengar a chadarnhaol?
Os felly, yna hoffem glywed gennych chi, gan ein bod yn dymuno penodi Cydlynydd Prosiect ar gyfer y Rhaglen LEADER o fewn Sir Benfro.
Pwrpas y Cydlynydd Prosiect yw:
- Cefnogi, arwain a chydlynu’r rhaglen LEADER ar gyfer Arwain Sir Benfro drwy hyrwyddo cyfleoedd LEADER a darparu’r Strategaeth Datblygu Lleol yn Sir Benfro.
- Hyrwyddo ac adolygu systemau archwilio mewnol a gweinyddol sy’n gysylltiedig â cheisiadau prosiectau, ceisiadau am grantiau a phrosesau monitro.
- Sicrhau y rheolir ac y cydlynir staff partneriaeth LEADER yn effeithiol.
- Cefnogi a darparu gwybodaeth reolaidd i’r Grŵp Gweithredu Lleol yn unol â gwerthoedd PLANED a LEADER
Mae profiad uniongyrchol o ddatblygu prosiectau, darparu a rheoli prosiectau a ariennir, monitro, gwerthuso a rheoli hawliadau grantiau o fewn sefydliadau tebyg, ynghyd â phrofiad amlwg o gydweithio gyda’r trydydd sector a’r gymuned yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Fel rhan o’n proses recriwtio, mae’n ofynnol eich bod yn cwblhau ffurflen gais cyflogaeth y cwmni.
Buddion:
- Oriau gweithio hyblyg
Math o Swydd: Contract Amser Llawn
Cyflog: £30,000.00 i £33,000.00 y flwyddyn
Dyddiad cau 17 Mehefin 2020
Am fanylion pellach, cysylltwch â julied@planed.org.uk