Yn ddiweddar bu i Iwan Thomas, Prif Swyddog Gweithredol PLANED ymuno â’r panel yn lansiad prosiect newydd Deall Lleoedd Cymru (UWP) sy’n cael ei arwain gan y Sefydliad Materion Cymreig.
Nod prosiect Deall Lleoedd Cymru yw creu gwefan sydd yn bwynt cyswllt cyntaf er mwyn cael gwybodaeth ystadegol am drefi a chymunedau yng Nghymru sydd â phoblogaethau o 1,000 o bobl neu fwy.
Y gobaith yw y bydd y wefan yn cefnogi ac ysbrydoli cymunedau, gwneuthurwyr lleoedd a gwneuthurwyr polisi i wneud newidiadau cadarnhaol yn y lleoedd maent yn byw a gweithio ynddynt.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Iwan Thomas, Prif Swyddog Gweithredol PLANED: “Mae nifer sylweddol o bobl yn Sir Benfro yn byw mewn trefi bychain a chymunedau llai. Er hyn, yn rhy aml caiff y cymunedau hyn eu hanghofio yn ystod prosesau llunio polisi a chasglu data arferol. Mae cyllid wedi’i dargedu yn bodoli ar gyfer dinas-ranbarthau a chymorth amaethyddol, ond nid oes cyllid penodol ar gyfer trefi. Yn ogystal, mae’n anodd cael gafael ar ddata ynghylch trefi i fwydo i mewn i bolisïau a darparu tystiolaeth o arferion da presennol.
“Bydd y wefan yn adnodd ac yn bwynt cymorth ar gyfer ceisiadau am grantiau, cynlluniau lleoedd, a chynllunio cymunedol.
Bydd pobl yn gallu defnyddio a dehongli’r data agored sydd ar gael er mwyn adnabod cyfleoedd o fewn eu hardaloedd nawr, ac yn y dyfodol. I’r perwyl hwn, mae’n bwysig fod y prosiect hwn yn parhau, er mwyn darparu dilyniant o ran data a deallusrwydd i gymunedau ar y lefel hon.
“Mae PLANED wedi bod yn cefnogi cymunedau ar draws Gorllewin Cymru am 30 mlynedd, a bydd meddu ar ddata o’r lefel ac ehangder hyn yn galluogi cymunedau i gyfathrebu a deall y tueddiadau sydd yn cael effaith ar eu trigolion, gwasanaethau, a chyfleoedd yn well.”
Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi cael contract gan Carnegie UK Trust (CUKT) i weithio gydag eraill i siapio’r prosiect UWP. Mae datblygiad y wefan ei hun yn cael ei ariannu gan CUKT a Llywodraeth Cymru. Mae cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau wedi helpu i siapio’r prosiect dros yr 18 mis diwethaf. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys CGGC, Un Llais Cymru, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, Comisiwn Dylunio Cymru, Prifysgol Aberystwyth a’r Ffederasiwn Busnesau Bach.