
Ddydd Llun, daeth arbenigwyr tai o Lundain â Gorllewin Lloegr ynghyd â chynrychiolwyr o Gymru gyfan ar gyfer seminar a gynhaliwyd gan PLANED a Chyngor Sir Benfro i ddathlu gwaith Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro.
Daeth siaradwyr gwadd o YTC Wessex, Cyngor Dinas Bryste, a sefydliad cenedlaethol yr Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, i drafod enghreifftiau gwych o gymunedau a phobl leol yn arwain ar faterion tai.
Amcan yr Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol yw darparu tai fforddiadwy i bobl leol gan gynhyrchu incwm ar gyfer cymunedau, gydag aelodaeth o’r YTC ar gael i bawb yn y gymuned.
Yn ogystal â hyn, gall YTCau fod yn gyfrwng ar gyfer prosiectau eraill sydd o fudd i’r gymuned hefyd, megis swyddfeydd post a siopau cymunedol.
Cafodd PLANED gyfle hefyd i arddangos eu prosiect rhandaliadau cymunedol.
Dylai unrhyw gymunedau sy’n awyddus i ddysgu mwy gysylltu â Jo Rees-Wigmore, Swyddog Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro trwy alw 07990 761386.