Cynyddu cyfoeth cymunedol oedd pwnc cyfarfod diweddaraf Rhwydwaith Fforymau Cymunedol PLANED.
Daeth cynrychiolwyr fforymau cymunedol ac unigolion â diddordeb o bob rhan o’r sir ynghyd yn ddiweddar i glywed gan siaradwyr ynghylch eu profiadau o ddatblygu cyfoeth cymunedol mewn sawl gwahanol ffurf.
Ymhlith y siaradwyr lleol yr oedd cynrychiolydd o’r VC Gallery, sydd wedi sefydlu safle yn Noc Penfro yn ddiweddar, a Luke Conlon yn trafod ei brosiect NOS DA (No One Should Die Alone). Cafwyd amlinelliad o Wasanaeth Cymorth Cyfranddaliadau Cymunedol PLANED ei hun a chlywsom gan dîm troseddau cefn gwlad newydd Heddlu Dyfed Powys. Roedd y prif siaradwyr yn cynrychioli Cwmni Bro Ffestiniog ym Mlaenau Ffestiniog.
Dywedodd Benjamin Thorndyke, Swyddog Rhwydweithiau: “Cawsom ein hysbrydoli gan yr holl siaradwyr ac wrth glywed am yr hyn sy’n digwydd yng ngogledd Cymru gyda Chwmni Bro Ffestiniog. Rhwydwaith o fentrau cymunedol ydyw, sydd wedi dod ynghyd i gydweithredu dan faner un cwmni cymunedol cyffredinol.
“Mae mwy o fentrau cymdeithasol i bob pen o’r boblogaeth ym Mro Ffestiniog nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Mae pymtheg o fentrau cymdeithasol yr ardal wedi dod ynghyd dan faner Cwmni Bro Ffestiniog. Mae llawer o bethau y gallwn ddysgu o’u profiad ac, o bosib, eu rhoi ar waith yma yn Sir Benfro.”
Mae Rhwydwaith Fforymau Cymunedol PLANED yn cwrdd yn rheolaidd i drafod materion sydd o ddiddordeb i gynghorau tref a chymuned, fforymau a chymdeithasau cymunedol ac eraill sydd â diddordeb mewn arwain cymuned.
Darllen mwy yma:
Community Shares Support service for Pembrokeshire
Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â’n Swyddog Rhwydweithiau, Benjamin Thorndyke
e-bost: benjamint@planed.org.uk