Digwyddiadau
Loading Events

« Gweld pob Digwyddiadau

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.

Span Arts: Bynji Jymping a Monologau eraill

Gwe 26 Maw @ 7:30 yp - 9:00 yp

Hwyl a sbri gyda SPAN a Ffrindiau Mewn Angen y Gwanwyn hwn!

Mae Span Arts, elusen celfyddydau cymunedol wedi’i lleoli yn Sir Benfro, Gorllewin Cymru yn dod â chynhyrchiad arall Theatr Soffa i’ch cartrefi ym mis Mawrth. Yn dilyn llwyddiant “Chwedlau’r Cyfnod Clo: Bara a Babanod”, Dracula a Dan y Wenallt i enwi ond ychydig, mae Span Arts yn edrych ymlaen at ddod â pherfformiad cymunedol byw yn yr iaith Gymraeg mewn cydweithrediad â Menter Iaith Sir Benfro a Cered at ei gilydd dros alwadau fideo ar ddydd Gwener 26 Mawrth am 7.30yh.

Y cynhyrchiad gwych nesaf fydd addasiad doniol o “Bynji Jymping a Straeon eraill” sef addasiad o “Bynji Jymping a Monologau eraill” gan Gareth Owen. Mae cast o actorion o bob oed rhwng 17 a dros 70 oed, wedi’u lleoli mewn cymunedau gwledig ledled Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn camu i’r llwyfan rhithwir ac yn dod â’i holl gymeriadau rhyfedd yn fyw!

“Rwy’n hoffi actio a pherfformio felly mae Theatr Soffa yn gyfle gwych i berfformio mewn ffordd gwbl gwahanol!”

“Y peth gorau oedd cwrdd â phobl newydd o wahanol gefndiroedd a chael hwyl wrth ymarfer, gwella sgiliau technegol a chael cyfle i wneud rhywbeth holl newydd a gwahanol.”

 

BYNJI JYMPING

Mae’r addasiad hwn yn dilyn Gwynn Williams, ei “Fusus” a’r holl gymeriadau a sefyllfaoedd doniol a lliwgar sy’n eu hamgylchynu. Mae’n hiwmor Cymreig iawn, yn arddull unigryw awduron fel Wil Sam, Harri Parri a C’Mon Midffîld’. Rydym yn edrych ymlaen at roi perfformiad comedi at ei gilydd i ddod â rhywfaint o’r llawenydd sydd mawr ei angen y Gwanwyn hwn!

Am Theatr Soffa:

Cafodd Theatr Soffa ei sefydlu gan SPAN i gysylltu unigolion ynysig ac yn gaeth i’w cartrefi ledled Sir Benfro mewn ffordd greadigol â’r celfyddydau â defnydd mwy arloesol o dechnoleg.

Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant enfawr yn barod, gyda phedwar cynhyrchiad yn ystod dau gyfnod dan glo yng Nghymru. Mae’r cyfranogwyr i gyd wedi nodi gwelliant yn eu teimladau o les, a gostyngiadau mewn teimladau o unigrwydd gyda llawer o aelodau’r cast yn ffeindio cyfeillgarwch newydd trwy eu hymarferion ar-lein. Mae cael gweithgaredd rheolaidd i gymryd rhan ynddo a nod cyffredin wedi rhoi llawer i bobl edrych ymlaen ato, a gobeithiwn ddod â chymaint o bobl ynghyd â phosibl a allai fod yn teimlo’n unig neu’n ynysig ar yr adeg hon.

Os hoffech chi gwylio’r perfformiad, ewch i’r wefan www.span-arts.org.uk/beth-sy-mlaen

Manylion

Dyddiad:
Gwe 26 Maw
Amser:
7:30 yp - 9:00 yp
Event Category:
Website:
www.span-arts.org.uk/beth-sy-mlaen

Organizer

Span Arts
Email:

Lleoliad

Online