Digwyddiadau
Loading Events

« Gweld pob Digwyddiadau

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.

Seminar Croeso Cymunedol – Preseli

Iau 29 Ebr @ 2:00 yp - 4:00 yp

Free

Ydych chi’n byw neu’n gweithio yn ardal Preseli yn Sir Benfro?

Oes gennych chi ddiddordeb am dwristiaeth yn eich cymuned?

Hoffech chi wybod sut y gall cymunedau a busnesau weithio gyda’i gilydd i groesawu ymwelwyr i’r Preselis?

Yn y seminar AM DDIM hon, bydd pedwar siaradwr yn dod â’u persbectif a’u harbenigedd i drafod dull cynaliadwy o ddarparu croeso cymunedol unedig i ymwelwyr, gyda chymunedau a busnesau twristiaeth o bob rhan o’r Preseli.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Emma Thornton, Prif Swyddog Gweithredol Ymweld â Sir Benfro, ar bwysigrwydd croeso cymunedol ledled y sir.

Wedi’i anelu at breswylwyr, aelodau o grwpiau cymunedol a’r rhai sy’n gweithio ym maes twristiaeth, hamdden neu letygarwch yn ardal Preseli yng ngogledd Sir Benfro, bydd y digwyddiad hwn yn galluogi cynrychiolwyr i archwilio’r syniadau a godwyd. Bydd cynrychiolwyr yn cael cyfle i siarad â chyflwynwyr yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaeth ford gron am yr hyn y gallai’r camau nesaf ar gyfer y Preseli fod.

Organizer

Sophie Jenkins
Phone:
01834 860965
Email:
sophiej@planed.org.uk

Lleoliad

Online