6). Adeiladu rhwydweithiau diddordeb arbennig trwy godi ymwybyddiaeth a mentrau hyfforddi.

Codi Ymwybyddiaeth Benodol/Rhaglenni Hyfforddiant.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â'r rhain a rhaglenni eraill codi ymwybyddiaeth/hyfforddiant PLANED cysylltwch â
Sarah Diment ar 01834 862107
neu ebostiwch sarahd@planed.org.uk

Fel rhan o'i raglen o gynorthwyo pobl leol i gynllunio a pharatoi yr ardal i gydnabod anghenion twristiaid, fe hwylusodd SPARC (1991-2001) amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi ar gyfer busnesau twristiaeth.

Bwriad y cyrsiau yma oedd cynyddu gallu'r ardal i gyflenwi anghenion ymwelwyr ac i wella ansawdd. Cyflwynwyd hyfforddiant i grwpiau o fentrau twristiaeth cyfredol ac arfaethedig er mwyn annog datblygu rhwydweithiau ac i sicrhau datblygiad nifer angenrheidiol o fusnesau yn cynnig gwasanaethau cyfochrog er mwyn creu cynnyrch credadwy.

Datblygwyd a chyflwynwyd cyrsiau mewn partneriaeth â darparwyr perthnasol (e.e SIMTRA) ac arbenigwyr (e.e Sefydliad Abertawe). Cyfres o gyrsiau undydd yn cynnwys glendid bwyd sylfaenol, datblygu gwely a brecwast, TG a gwneud eich busnes yn fwy gwyrdd. Ar yr un pryd datblygwyd rhaglenni mwy dwys a chynhwysfawr – roedd y rhain yn cynnwys Twristiaeth Fferm Gwyrdd; QUEST (Ansawdd, Unigrywiaeth, Hyrwyddiant, Cynllunio Strategol a Hyfforddiant mewn Rheolaeth / Quality, Uniqueness, Enhancement, Strategic Planning and Training in Management); Twristiaeth Amgylcheddol i Bawb a Thwristiaeth Gynhwysol i Bawb. Trefnwyd y rhaglenni yma rhwng 2000-2003 a denwyd tua 85 o fusnesau. Mae rhaglenni Gwerthusiadau Gwyrddu Twristiaeth Ffermydd a Thwristiaeth Amgylcheddol ac Hollgynhwysol i Bawb yn tanlinellu’r gwerth mae busnesau yn cael o’r cyfle i rhwydweithio.

Yn 2002, pan sefydlwyd PLANED cymerwyd amser i adolygu gweithgareddau SPARC ym maes twristiaeth ac i lunio argymhellion er mwyn parhau â'r gwaith. Gwnaed hyn gyda chymorth Cwmni Twristiaeth Cyf ac fe nodwyd y cyfan yn `Adolygiad & Strategaeth Twristiaeth SPARC/PLANED 2002', Y Cwmni Twristiaeth. ‘ Mae darpariaeth cefnogaeth busnes i fentrau a chymunedau lleol wedi chwarae rhan ganolog yn null SPARC o ddatblygu twristiaeth. . . mae SPARC wedi llwyddo i ddenu busnesau-micro, sy'n dominyddu sector twristiaeth gwledig trwy ddarparu cyrsiau hyfforddiant ymarferol, wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion busnesau bychain ac sydd wedi eu hintegreiddio â phecynnau cefnogaeth ehangach o gymorth grantiau, ymgynghoriaeth a rhwydweithio.'

Ail lawnsiwyd Rhaglen Ddatblygu Busnes Twristiaeth PLANED yn llwyddiannus yn 2003/4 mewn cydweithrediad â Thwristiaeth Sir Benfro Cyf. Un o brif elfennau’r rhaglen yma yw ‘Naws am Le’.

Mae Naws am Le yn codi ymwybyddiaeth o fewn mentrau twristiaeth potensial a phresenol Sir Benfro

  • o’r cyfle i greu ffurfiau o dwristiaeth mwy gwerthfawr, mwy cynaladwy.
  • drwy gweithio’n agos gyda cymunedau lleol yn eu gweithgareddau (ee digwyddiadau, gŵyliau, taflenni treftadaeth, teithiau cerdded themateg, celfyddydau, crefftiau a chynnyrch bwyd/diod), sy’n dehongli diwylliant, treftadaeth ac amgylchedd unigryw ac arbennig Sir Benfro wledig.

Cyflwynir y codi ymwybyddiaeth drwy gyfres o seminarau/teithiau themateg, sy’n cael eu hyrwyddo gan gynhrychiolwyr/arbennigwyr o’r gymuned leol ac sy’n cynnwys ymweliadau i/hyrwyddo ymarfer da lleol mewn dehongli cymuned leol, menter busnes, rheolaeth/gwelliant amgylcheddol ayyb.

Mae’r prosiect hefyd yn bywiogi ac yn hyrwyddo gweithredu awgrymiadau a wnaethpwyd yn ‘Arweinlyfr Naws am Le’ Bwrdd Twristiaeth Cymru – a thrwy hyn rhoi gwerth ychwanegol i’r arweinlyfr yma sydd yn anelu i annog busnesau twristiaeth unigol yng Nghymru i weithio gyda’r hyn sy’n nodweddiadol yn lleol.

 

7). Dynodi/Marchnata

Yn wreiddiol datblygwyd a hyrwyddwyd nod ‘Ffiniau'r Landsger'. Roedd gan fudiadau yn yr ardal y cyfle i hyrwyddo eu hunain o fewn y cyd-destun yma.

Fodd bynnag, roedd denu ymwelwyr tramor sydd yn gwario mwy, ac sy'n fwy tebygol o aros mewn lletyau ac o deithio y `tu fas i'r tymor`, y tu hwnt i allu y rhan fwyaf o fudiadau unigol yn yr ardal.

Yn 1994 sefydlwyd Biwro Gwyliau Cefn Gwlad y Landsger er mwyn marchnata cyfleon twristiaeth gwledig oedd wedi ei ddatblygu'n bennaf, er nad yn gyfangwbl, ar gyfer trefnyddion teithiau tramor .

Yn 1996 sefydlwyd Gwyliau Cefn Gwlad Cymru – gan dynnu ynghyd saith o ardaloedd gwledig Cymru er mwyn marchnata cynnyrch twristiaeth gwledig Cymru yn bennaf, er nad yn gyfangwbl, ar gyfer trefnyddion teithiau tramor.

Yn 2000 datblygodd Gwyliau Cefn Gwlad y Landsger yn Wyliau Gwyrdd er mwyn cynyddu cyfleon marchnata ar gyfer cynnyrch gwledig cynaladwy ledled Sir Benfro – www.greenwaysholidays.com

8). Gwerthuso & Chydnabod
Gwneir gwerthuso annibynnol rheolaidd o weithgareddau twristiaeth gwledig cynaladwy PLANED. Y diweddaraf yw Adolygiad & Strategaeth Twristiaeth 2002, Y Cwmni Twristiaeth.

Gwobrau

  • 1993 Twristiaeth Yfory British Airways
    Ffiniau'r Landsger
  • Gwobr Twristiaeth Gwyrdd Schroder Bwrdd Croeso Cymru
    Cymrwch Hoe Gwyrdd
  • Gwobr Cyflawniad Glôb Gwyrdd 2000 -
    Twristiaeth Ffermio Gwyrdd

 

TUDALENNAU
3

NESAF

 

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

\/

l

l

l

l

l

\/

l

l

l

l

\/


PRYDWEDD DDOLENNI:
Bro Beca
Gwyliau Lonydd Glas
Lonydd Glas Sir Benfro
Prosiect Twigs