Lonydd Glas Sir Benfro
TUDALENNAU
4

Lonydd Glas Sir Benfro

Cafodd Prosiect Lonydd Glas ei lansio ym Mai 1994, wedi'i hyrwyddo gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru fel menter arddangos, wedi'i rheoli gan PLANED, er mwyn darparu cyfleoedd trafnidiaeth integreiddiedig i alluogi ymwelwyr a phobl leol i deithio a mwynhau cefn gwlad De Sir Benfro heb ddefnyddio car.

Mae Prosiect Lonydd Glas wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sefydlu rhwydwaith o ffyrdd a llwybrau o ansawdd uchel, wedi'u cysylltu â thrafnidaeth gyhoeddus yn Ne Benfro.

Rhoddwyd hefyd ffocws twristiaeth wledig a chysylltiadau â strategaeth dwristiaeth PLANED.

Yn 2000 sefydlwyd Partneriaeth y Teithiau Gwyrdd, partneriaeth annibynnol yn cynnwys consortiwm o gyrff yn Sir Benfro: PLANED, Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgylchedd Cymru a Grwp Mynediad Sir Benfro.

Mae Fforwm Ymgynghorol ehangach yn cynnwys busnesau a sefydliadau lleol.

Nôd Lonydd Glas yw hyrwyddo mynediad i bawb i gefn gwlad Sir Benfro mewn modd sydd yn gynaliadwy yn amgylcheddol.

Am wybodaeth bellach ar Lonydd Glas, ymwelwch â www.pembrokeshiregreenways.co.uk

PRYDWEDD DDOLENNI:
Bro Beca
Gwyliau Lonydd Glas
Lonydd Glas Sir Benfro
Prosiect Twigs