Pembrokeshire Greenways Logo

PLANED Logo

 

     
English | Hafan | Lonydd Glas Sir Benfro

Mae copïau caled o’r rhan fwyaf o daflenni ar gael o PLANED ar 01834 860965 neu gallwch archebu ar-lein

I lwytho i lawr taflenni cerdded, cliciwch ar ddelweddau

Adobe LogoCliciwch i lwytho i lawr Adobe Acrobat Reader

Teithiau AberdaugleddauTeithiau Aberdaugleddau
Tair Taith Gerdded Gylch o wahanol hyd sydd i gyd yn dechrau a gorffen yn Aberdaugleddau. Dolen i Neyland ac yn ôl yw Taith 1. Dolen i Herbandston ac yn ôl yw Taith 2 a dolen i Steynton ac yn ôl yw Taith 3.

 

 

Teithiau Dyffryn Llanbedr Teithiau Dyffryn Llanbedr

Dwy daith gylch o Orsaf Arberth. Dolen i Landdewi Efelffre ac yn ôl yw Llwybr A (6.1milltir/9.8cm). Dolen i Lanbedr Efelffre ac yn ôl yw Llwybr B (14.5milltir/24cm).

 

 

 

Tair Taith yn Nhrefdraeth Sir BenfroTair Taith yn Nhrefdraeth Sir Benfro

Tair taith gylch o wahanol hyd sy’n dechrau a gorffen yn Nhrefdraeth. Mae’r llwybrau yn cynnig cyfle ar gyfer cerdded arfordirol ynghyd â cherdded mynydd.

 

 

Coedwigoedd Canaston a MynwarCoedwigoedd Canaston a Mynwar

Mae’r daith hon yn dechrau ger Melin Blackpool a chynnig sawl llwybr cerdded a seiclo sy’n croesymgroesi'r hen goedwigoedd hardd Canaston a Mynwar.

 

 

Llwybrau LlawhadenLlwybrau Llawhaden

Dwy daith o Lawhaden. Dolen i Bont Gelli ac yn ôl yw Llwybr A (4.5milltir/7.3cm). Dolen i Wersyll Holgan ac yn ôl yw Llwybr B (2filltir / 3.2cm).

 

 

 

Teithiau Penrhyn Angle Teithiau Penrhyn Angle

Tair taith a’r hiraf ohonynt yn 9.5 milltir. Mae’r llwybrau yn mynd o gwmpas Penrhyn Angle a Phentref Angle ei hun.

 

 

 

Taith y RitecTaith y Ritec

Mae’r hon yn daith gylch 6 milltir drwy Ddyffryn y Ritec a ellir dechrau naill ai ym Mhenalun neu St Florence.

Teithiau Cymunedol Llandysilio a ChlunderwenTeithiau Cymunedol Llandysilio a Chlunderwen

6 taith gymunedol sy’n cysylltu’r ddwy gymuned o Landysilio a Chlunderwen.

 

 

 

Ffordd y MarchogFfordd y Marchog
Mae’r llwybr yn daith syth (9.3milltir/15km), sy’n dechrau wrth ucheldir yr afon Cleddau Ddu a mynd drwy sawl lle sydd â chysylltiad â Marchogion y Deml a Marchogion Sant Ioan gan gynnwys Tredeml, yr Eglwys Lwyd ac yn gorffen yn Llanrhath (Amroth).

 

Cerdded Llwybrau LlandudochCerdded Llwybrau Llandudoch

Dwy daith o wahanol hyd sy’n dechrau a gorffen yn Llandudoch a mynd heibio i safleoedd o ddiddordeb hanesyddol ar y ffordd.

 

 

Crymych -Teithiau’r FrenniCrymych -Teithiau’r Frenni

Pedair taith gylch o wahanol hyd sy’n dechrau a gorffen yng Nghrymych. Maent yn cynnwys peth cerdded mynydd a mynd drwy’r cymunedau agos o Hermon, Glôg a Llanfyrnach.

 

All Saints WalksTeithiau'r Holl Seintiau

Mae pedwar llwybr cerdded o wahanol hyd (pellter hiraf o 10 milltir) sy’n mynd ar draws yr ardal rhwng Penfro a Bosherston.

 

 

Llwybr y GlowyrLlwybr y Glowyr
Mae’r daith yn dilyn taith yr hen Reilffordd Saundersfoot a gludodd glo o’r pyllau glo yn Thomas Chapel, Pentlepoir a Stepaside. Mae’r llwybr cyfan yn 10.6 milltir ond mae’r llwybr byrrach yn hanner hynny.

Teithiau pellter mawr

Gwelwch www.greenwaysholidays.com i archebu llety a throsglwyddo bagiau.

Ffin y LandsgerFfin y Landsger
Mae’r Llwybr yn 60 milltir o hyd yn amgylchu Ffin y Landsger. Mae’n mynd trwy amrywiaeth o bentrefi a thirwedd gan gynnwys Hendy-gwyn ar Dâf, yr Eglwys Lwyd, Cei Cresswell, Melin Blackpool, Efailwen, Llanboidy cyn dychwelyd i Hendy-gwyn. Gellir cerdded mewn rhannau syth, neu fel cylchdaith gan aros dros nos.

 

Cylch y Preseli Cylch y Preseli
Mae’r Llwybr yn 67 milltir o hyd o gwmpas mynyddoedd y Preselau. Yn cychwyn yn Abergwaun, mae’r llwybr yn dilyn Cwm Gwaun, ar draws crib y Preselau, ymlaen i Grymych, Cilgerran, Llandudoch ac wedyn yn dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, a dychwelyd i Abergwaun. Gellir cerdded mewn rhannau syth, neu fel cylchdaith gan aros dros nos.
De’r LandsgerDe’r Landsger
Mae’r Llwybr yn 60 milltir o hyd. Mae’n dechrau yn Arberth ac arwain i Saundersfoot, o ble mae’n dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro mor bell â Bosherston drwy ucheldir afon Cleddau Ddu cyn dychwelyd i Arberth. Gellir cerdded mewn rhannau syth, neu fel cylchdaith gan aros dros nos.

 

Teithio a Cherdded

I lwytho i lawr, cliciwch ar benawdau

Teithio a CherddedTeithio a Cherdded

Detholiad o deithiau cerdded cylch a syth o wahanol hyd sy’n dechrau a gorffen wrth safle bws neu orsaf rheilffordd.

Archwilio cefn gwlad prydferth Sir Benfro heb angen dod â’ch car.

 

 

 

Teithiau Cerdded Gorsaf i Orsaf

Hendy-gwyn ar Dâf i Arberth a Hendy-gwyn ar Dâf i Glunderwen – Mae’r daith hon yn 8.5 milltir/13.4cm o hyd. Mae’n arwain o Orsaf Hendy-gwyn ar Dâf ar draws y dyffryn i Landdewi Efelffre ac ymlaen naill ai i Arberth neu Glunderwen.

Great Western – Aberdaugleddau i Johnston – Mae’r daith hon yn 10.75 milltir/17cm o hyd. Mae’n dechrau yn Aberdaugleddau a dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Neyland cyn troi i’r tir i Johnston.

Cestyll, Clogwyni a Chromlechi - Maenorbyr i Benalun - Mae’r daith yn 7.5 milltir/12cm o hyd. Mae’n dechrau yng Ngorsaf Maenorbyr ac arwain i’r de mor bell â’r arfordir o ble mae’n dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Benalun.

Cefn Gwlad a’r Arfordir - Taith Gylch Gorsaf Saundersfoot - Mae’r daith gyfan yn 15 milltir/23.8cm ond gellir cerdded gan ddefnyddio’r rheilffordd i ddychwelyd. Mae’r llwybr yn dechrau yng Ngorsaf Saundersfoot ac arwain i’r pentrefi hanesyddol East Williamston a Phenalun cyn dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i’r dref lan môr Dinbych-y-pysgod a dychwelyd i Saundersfoot.

Teithiau Gorsaf a Llwybrau Bysys

Y Cleddau Dawel – Hwlffordd i Langwm – Mae’r daith hon yn 7.2 milltir/11.5cm o hyd. Yn dechrau yn Hwlffordd, mae’r llwybr yn dilyn glannau tawel yr afon Cleddau Wen mor bell â Hook a Llangwm.

Y Ddyfrffordd Gudd – Arberth i Gei Cresswell – Mae’r llwybr yn 10.5 milltir/16.8cm o hyd. Mae’r daith yn dechrau yn Arberth ac arwain tua'r dwyrain drwy goedwigoedd deri i Felin Blackpool cyn troi tua’r de a gorffen yng Nghei Creswell ar lannau’r Cleddau Ddu.

Palasau a Phyllau - Landyfái i Bosherston – Mae’r llwybr hwn yn 8.4 milltir/13.4cm o hyd. Ar ôl dechrau yn Llandyfái, mae’r daith yn arwain i Freshwater East, o ble mae’n dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Gei Stangbwll a Bae Barafundle cyn dod i ben ger Llynnoedd Lilïau Bosherston.

Teithiau Cerdded Llwybrau Bysys

Llynnoedd a Ffynhonnau - Llys-y-frân i Rosebush - Mae’r llwybr yn 5 milltir/8cm o hyd. Mae’r daith yn dechrau yn Llys-y-frân a dilyn ffin y gronfa ddwr cyn parhau mor bell â Bernard’s Well a Rosebush.

Y Tri Chopa - Taith Gylch Mynachlog-Ddu - 6 milltir/9.6km - Taith Gylch Rosebush - 5 milltir/8cm. Cysylltir y ddwy daith hyn gan Grib y Preselau gyda golygfeydd aruthrol ar draws y dirwedd o’i chwmpas.

Taith Gylch Llandudoch – Mae’r llwybr hwn yn 12.3 milltir/19.7cm o hyd. Ar ôl dechrau ym mhentref hynafol Llandudoch, mae’r daith yn mynd heibio i Draeth Poppit. Mae llwybr llygad ond mae’r brif daith yn parhau mor bell â Phenrhyn Cemaes o ble mae’n dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Graig cyn troi i’r tir i Gipyn a dychwelyd i Landudoch.


Greenways Partnership Logos