TUDALENNAU |
||
|
2 |
||
1. Mae 'Llenwi'r Bylchau' yn helpu pobl leol i gyfyngu'r arian sy'n llifo allan o'r ardal.
Ar
lefel sylfaenol gall hynny olygu cymell pobl i wneud penderfyniadau doethach
o ran sut byddant yn gwario'u harian; ar lefel arall, gall arwain at symbylu
corff gwirfoddol i ymestyn ei weithgaredd ond, ar lefel fwy cymhleth, gallai
olygu busnes yn ehangu ei ddewis o gynnyrch, fyddai wedyn yn arwain at gyflogi
a hyfforddi mwy o staff. Gall olygu rhywun yn mentro i lansio busnes newydd,
neu gwmnïau'n
ymrwymo i brynu mwy o nwyddau a gwasanaethau yn lleol.
Gallai gwaith i lenwi bylchau gynnwys
2. Cynlluniau Datblygiad Arwynebedd
Bydd pob Grwp Menter Cymunedol yn llunio cynllun gwaith er mwyn clustnodi
cyfleoedd lleol ac yn cefnogi'r cynlluniau gydag ymchwil, cyngor a hyfforddiant.
3. Garddio Economaidd - Dyfrhau yr desert
Drwy
gyfrwng proses a ddisgrifir fel 'garddio economaidd' byddwn yn archwilio'r
holl adnoddau lleol - cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, amgylcheddol
- er mwyn clustnodi cyfleoedd i ychwanegu dimensiynau economaidd newydd.
Y syniad yw symbylu syniadau mentrus er mwyn tyfu planhigion cryf o hadau
bach, fydd wedyn yn ffynnu yn y dyfodol.
Bydd yn bwysig nodi talentau, hobïau, diddordebau a sgiliau cudd y gellid trosglwyddo - gyda chymorth a hyfforddiant - i greu cyfleoedd economaidd newydd.
4. Rhwydwaith Menter Sir
Benfro
Sefydlwyd
y grwp yma, o gyrff lleol a rhanbarthol sy'n cefnogi gweithgaredd o bob
math yn Sir Benfro, er mwyn darparu cymorth effeithiol i ddatblygu mentrau
newydd.
Partneriaeth
ac Ymchwil
Bwriedir
ymchwilio amrediad eang o weithgareddau yn sir Benfro ynghyd â'u
gwerth economaidd, er mwyn gweld os allwn eu helpu i gyfrannu mwy at ddatblygiad
economaidd cynaliadwy yr ardal.
Yn y cyd-destun hwnnw mae PLANED wedi sefydlu partneriaethau newydd gyda'r New Economics Foundation, Llundain a Chanolfan Menter a Datblygiad Rhanbarthol Prifysgol Cymru, Bangor. Bydd PLANED hefyd yn parhau i weithio gyda'i bartneriaid academaidd tymor hir megis Coleg Sir Benfro a Sefydliad Busnes, Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Sut fydd yn gweithio?
Byddwn
yn gweithredu'r fenter drwy 15 Grwp Menter Cymunedol drwy'r sir gyfan, gyda'r
aelodau'n cynrychioli fforymau cymunedol, ac yn derbyn cymorth gan nifer
o asiantaethau arbenigol. Bydd cynrychiolydd o bob grwp ar is-fwrdd entrepreneuraidd
PLANED. Gyda'i gilydd byddant yn pennu beth sydd angen gwneud i ddatblygu
potensial yr ardal. Swyddogaeth PLANED yw gweithredu i helpu pobl leol i
ddod at ei gilydd a gweithredu proses fydd yn arwain at greu Cynllun Gwaith
Entrepreneuraidd. Yna bydd PLANED yn parhau i gydweithio â phobl leol a phartneriaid
allweddol er mwyn cefnogi datblygiad y projectau o fewn y cynllun - wrth
gyfrannu amser ei staff, arbenigedd, adnoddau a chyllid - er mwyn gweithredu
syniadau. Cwmni cymunedol dielw yw PLANED; mae hefyd yn elusen gofrestredig.
Pam mae PLANED yn gwneud y gwaith yma?
Mae'n rhaid i Gymru droi'n gymdeithas entrepreneuraidd.
"Ar
gyfartaledd sefydlir llawer llai o fusnesau newydd yng Nghymru nag yn
Ewrop, Gogledd America a gweddill y Deyrnas Unedig. Os bydd hynny'n parhau
byddwn yn dioddef yn economaidd ac yn dibynnu'n ormodol ar fympwy mewnfuddsoddwyr.
Rhaid i ni ddechrau datblygu agwedd llawer mwy positif er mwyn galluogi'r
wlad i ffynnu dros y degawd nesaf."
Yr
Athro David Broadbank, cyfarwyddwr, Sefydliad Entrepreneuraidd Cymru
l
l
l
l
l
l
\/
l
l
l
l
l
l
\/
l
l
l
l
l
l
\/
l
l
l
l
l
l
\/
l
l
l
l
l
l
\/
