I
I
I
I
I
I
I
\/
I
I
I
I
I
I
\/
I
I
I
I
I
I
\/
I
I
\/

Cymuned a Datblygiad Cynaliadwy
GWERTHFAWROGI'R AMGYLCHEDD
Y SAFBWYNT
CYMDEITHASOL
Gwnewch i'ch syniadau gyfrif -
Edrychwch o'r newydd ar eich cymdogaeth a mynd i'r afael â phrosiectau
fydd yn gwneud eu marc yn barhaol.
Mae menter PLANED 'Gwerthfawrogi'r Amgylchedd' yn rhoi'r cyfle i bawb ymhel ag amddiffyn a gwella amgylchedd Sir Benfro er cenedlaethau y dyfodol.
Gyda'n partneriaid arbenigol byddan ni yn helpu i chi a'ch cymuned ennill y wybodaeth a'r sgiliau i droi syniad da yn ffaith. Bydd hysbys a sesiynau hyfforddi rheolaidd yn cynnwys gweithio yn y maes ag ymweliadau. Bydd rhein yn helpu tanlinellu beth sydd o bwys yn eich bro a dynodi cyfleoedd am wella neu adfer nodweddion a llefydd o werth i'ch cymuned.
Y nôd yw gwella'r amgylchedd a hybu agwedd gynaliadwy. Gallai prosiectau gynnwys ardaloedd bywyd gwyllt lleol neu fentrau ailgylchu. Efallai hoffech chi ddathlu beth sy'n unigryw am eich rhan chi o Sir Benfro wrth gychwyn ar gerflun amgylcheddol neu fap o'r plwyf. Neu efallai hoffech chi ymchwilio i dreftadaeth gyfoethog Sir Benfro.
Mae ein hamgylchedd
yn arbennig
Mae Sir Benfro yn arbennig oherwydd ei harfordir wyllt, ei thirwedd hanesyddol, ei chymoedd coediog, ei thir ffermio bras, ei cloddiau hynafol a'i mynyddoedd llawn chwedl a dirgelwch. Mae'r llefydd yma i gyd yn gartref i doreth o rywogaethau prin a mewn perygl, yn cynnwys gweision y neidr, tegeirianau, ystlumod, adar y môr a morloi. Gallwch chi a'ch cymuned ymhel â dynodi a gwarchod y cynefinoedd a rhywogaethau amlygwyd yn Cynllun Gweithredu Lleol Bioamrywiaeth Sir Benfro.
Hefyd mae bywyd gwyllt yn dibynnu ar lleoedd agored yn ein cymdogaeth, yn cynnwys gerddi, tir comin, dolydd a mynwentydd. Mae ysgolion, Merched y Wawr a Chlybiau Ffermwyr Ifanc yn aml yn cyfrannu at gadw'r llefydd yma mewn cyflwr da. Efallai y bydd gyda chi rai syniadau am brosiectau posib yn eich ardal.